Copyright © 2008 by "Witness service" · All Rights reserved · E-Mail: contact@info-court.org
Amdanom ni
Bydd aelod o’r Gwasanaeth Tystion yn eich cyfarfod ym mynedfa’r llys. Gellir eich cyfarfod wrth fynedfa i’r ochr neu’r cefn pe bai hynny’n well gennych (ac os yw’n bosib).
Byddwn wedyn yn hysbysu’r cydgysylltydd, y tywysydd a Gwasanaeth Erlyn y Goron (GEG) eich bod wedi cyrraedd.
Fe gynigir cyfle wedyn ichi gael golwg ar y llys (os yw ar gael).
Yna byddwn yn eich hebrwng i swît y tystion, ystafell a ddarperirgan y llys ar gyfer tystion.
Bydd y Gwasnaeth Tystion yn ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.
Yna byddwn yn egluro peth ar iaith/jargon y llys.
Bydd y Gwasanaeth Tystion yn cael eich datganiad gan dyst i chi darllen drosto. Os na fedrwch wneud hyn, bydd aelod o’r Gwasanaeth Tystion, gyda’ch caniatâd chi, yn ei ddarllen efo chi. Cofiwch ein bod yn deall fod pobl gyda gwahanol anawsterau dysgu, a bod gwahanol resymau dros hyny.
Gofynnwn ichi beidio â thrafod eich datganiad gyda thystion eraill, neu aelodau o’r Gwasanaeth Tyst.
Os teimlwch fod rhywbeth o’i le gyda’ch dataniad, byddwn yn hysbysu’r bobl briodol a fyddant yn trafod hyn gyda chi.
Byddwn yn eistedd ac yn sgwrsio efo chi tra fyddwch yn disgwyl i fynd i mewn i’r llys. Dylech fod yn barod i ddisgwyl gan y gall hyn weithiau gymeryd rhai oriau.
Os dymunwch, mi awn i mewn i’r llys efo chi ac eistedd yn yr ochr. Ni chawn siarad na chysylltu â chi tra byddwch yno.
Er mai dyma’r rhan sy’n peri’r dychryn mwyaf o bosib, yr ydym ni a holl swyddogion y llys yn deall y gallwch fod yn nerfus ynglyn â rhoi tystiolaeth. Fe wnawn ein gorau i’ch gwneud mor gyffyrddus â phosib.
Yna byddwn yn gadel yr ystafell gyda’n gilydd. Ni chaniateir i chi ddychwelyd i ystafell y tystion os oes tystion eraill yno.
Byddwn wedyn yn mynd dros unrhyw broblemau neu faterion sydd gennych i’w trafod.
Yna byddwn yn cerdded efo chi i allanfa’r llys.
Os ydych wedi gofyn am unrhyw ôl-gymorth (er nad yw’r Gwasanaeth Tystion yn cynnig hyn), byddwn yn hapus (gyda’ch caniatâd chi) i anfon eich manylion ymlaen i’r asiantaeth briodol.
Beth ydym yn ei wneud.