


Rhanbarth Canolog.
Llys Ynadon Llandudno.
Swît Tystion anibynnol gyda dolen fideo a thoiledau. Gan nad oes lle i barcio, dylai tystion gyrraedd yn gynnar i gael lle i barcio o fewn cyrraeddd i’r llys. Ni ellir defnyddio’r drws cefn heb ganiatâd drwy’r Mesurau Arbennig. Mae sgrins ar gael. Bydd rhaid i dystion fynd heibio’r diffinydd am fod mynediad i Swît y Tystion yn golygu mynd drwy’r brif ystafell aros os na chaniateir mynediad drwy’r drws cefn. Fel rheol, byddwn yn cynghori tystion i gyrraedd erbyn 9am fel y gallwn eu cael i mewn i’r Swît cyn i’r diffynyddion, eu teuluoedd a’u cyfeillion gyrraedd. Os oes gan dystion angen cael sigaret, bydd rhai iddynt gerdded drwy’r brif dderbynfa i’r brif fynedfa. Mae yna fynedfa i’r anabl. Rhwng 9am a hanner dydd, mae bar ar agor sy’n gwerthu diodydd a thost yn unig.
Witness service
Conwy Road
Llandudno
Conwy
LL30 1GA
Wales
Llys Ynadon Prestatyn
Mynediad drwy’r drws cefn dim ond os caniateir Mesurau Arbennig. Mae yna le i barcio. Mae yna sgrins ac adnoddau dolen fideo ar gael. Mae’r toiledau ger y brif dderbynfa, a felly, bydd rhaid i dystion fynd heibio’r diffynydd, y teulu a chyfeillion pe bai arnynt angen defnyddio’r toiled. Rhaid mynd drwy’r brif dderbynfa i gyrraedd ystafell y tystion, a felly, cynghorir tystion i fod yno erbyn 9am os dymunant osgoi gweld y diffynydd (ond byddant yn ei weld os bydd rhaid iddynt ddefnyddio’t ty bach!!!!!). Eto bydd rhaid i dystion gerdded drwy’r dderbynfa i’r brif fynedfa os oes arnynt angen cael sigaret. Mae yna fynedfa i’r anabl. Rhwng 9am a 11am mae bar tê ar agor sy’n gwerthu diodydd a thost yn unig.
Victoria Road
Prestatyn Denbighshire
Wales
LL19 7TE
Llys Ynadon Dinbych
Mae yna lefydd i barcio y tu ôl i’r Llys. Mae’r ystafell aros reit yn ymyl y brif dderbynfa, a phe bai angen ar dyst i fynd i’r toiled, rhaid cerdded drwy’r dderbynfa. Hefyd, os oes ar y tyst angen sigaret, rhaid cerdded drwy’r dderbynfa i’r brif fynedfa neu’r drws cefn. Mae sgrins ar gael ond dim dolen fideo. Dim bar tê, ond mae yna beiriant gwerthu diodydd. Mae yna risiau sylweddol i fyny o’r maes parcio i ddrws cefn y Llys. Mae’r fynedfa i’r anabl yn ffrynt yr adeilad, ond nid oes fawr o le i barcio.
Grove Road
Denbigh Denbighshire
Wales
LL16 3UU
Rhanbarth Orllewinol.
Llys y Goron Caernarfon.
Mae yna le i barcio i lawr wrth Ymddiriedolaeth yr Harbwr. Swît Tystion ar gael. Gellir trefnu mynediad i dystion trwy’r drws cefn. Adnoddau dolen fideo a sgrins ar gael.
The Castle Ditch
Caernarfon
Gwynedd
LL55 2AY
Wales
Llys Ynadon Caernarfon.
Fel uchod, ond dim dolen fideo.
Llys Ynadon Dolgellau
Swît Tystion fechan iawn. Gellir trefnu mynediad trwy’r drws ochr. Gellir parcio gyferbyn â’r Llys. Adnoddau dolen fideo a sgrins ar gael.
Witness service.
The County Hall
Dolgellau
Gwynedd
Wales
Llys Ynadon Pwllheli.
Bychan iawn yw’r Swît Tystion. Dim mynediad trwy ddrws ochr. Dim dolen fideo ond y mae sgrins ar gael. Mae yna le i barcio ger y llys.
Troed yr Allt
Pwllheli
Gwynedd
LL53 5ED
Wales
Llys Ynadon Llangefni.
Bychan iawn yw’r Swît Tystion. Mae dolen fideo ar gael yn ogystal â lle i barcio. Nid oes fynediad drwy’r drws ochr. Mae sgrins ar gael.
Shire Hall Street
Glanhwfa Road
Llangefni Isle of Anglsey
Wales
LL77 7TW
Llys Ynadon Caergybi.
Swît Tystion fechan. Mae yna ddolen fideo yn ogystal â lle i barcio. Dim mynediad drwy’r drws ochr. Sgrins ar gael.
Law Courts
Stanley Street
Holyhead Isle of Anglsey
Wales
LL65 1HG
Rhanbarth Yr Wyddgrug.
Llys y Goron a Llys Ynadon Yr Wyddgrug.
Nid oes lle i barcio wrth y llys - maes parcio Theatr Clwyd yw’r agosaf - am ddim (ar yr un safle). Mae yna le i’r anabl barcio gyda threfniant ymlaen llaw gyda’r Gwasanaeth Tystio (deiliaid bathodyn glas yn unig. Mae yna Swît Tystion eang ar gyfer tystion yr erlyniaeth, tystion y diffinydd ac ystafell ar gyfer teuluoedd. Mae yna setiau teledu, peiriannau DVD, pethau i’w darllen a gemau i’r plant ar gael ym mhob ystafell. O fewn y Swît Tystio hefyd, mae yna doiledau a lle i newid clytiau babis. Mae tê a choffi ar gael. Rhaid i bawb sy’n defnyddio’r llys ddefnyddio’r brif dderbynfa. Mynediad drwy’r drws cefn ar gael twy drefniant ymlaen llaw efo Gwasanaeth Tystio. Mynediad i’r anabl ar gael i bob llys a’r Swît Tystio. Adnoddau dolen fideo, dolen fyw a sgrins ar gael yn y ddau lys. Tê a choffi yn unig sydd ar gael.
The Law Courts
Civic Centre
Mold Flintshire
Wales
CH7 1AE
Magistrates' Clerks Office
County Civic Centre
Mold Flintshire
Wales
CH7 1AQ
Rhanbarth Wrecsam.
Llys Ynadon Wrecsam.
Mae yna Swît Tystion hunan-gynhwysol gyda dwy ystafell efo dolen fideo, llys penodol ar gyfer tystion sydd angen mesurau arbennig gyda sgrins parhaol a mynediad trwy’r drws ochr. Mae yna doiledau yn y Swît hefyd, ac os yw tystion eisiau smocio gallant fynd trwy’r drws ochr dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Tystion. Mae yna gaffi yn yr adeilad ble gellir prynu lluniaeth ysgafn (brechdanau bacwn ayyb) rhwng 9.30am a 2pm, gyda’r fynedfa trwy’r brif dderbynfa. Gellir parcio yn y maes parcio Talu ac Arddangos o flaen yr adeilad ac argymhellir prynu tocyn am y diwrnod (£3) pan fyddwch yn mynd i’r llys. Cyfleusterau llawn ar gyfer mynediad i’r anabl ym mhob llys yn Wrecsam ac y mae’r toiledau, lle i newid clytiau babis a’r Swît Tystion i gyd ar yr un lefel. Mae’r drysau i gyd yn ddigon llydan i gadeiriau olwyn.
Bodhyfryd
Wrexham Denbighshire
Wales
LL12 7BP




Copyright © 2008 by "Witness service" · All Rights reserved · E-Mail: contact@info-court.org
Llysoedd Troseddol Gogledd Cymru - Adnoddau a Gwybodaeth