Copyright © 2008 by "Witness service" · All Rights reserved · E-Mail: contact@info-court.org
Tystion archolladwy a mewn ofn.
Y Gwasanaeth Tystion pellach.
Gwasanaeth cyfrinachol a rhad ac am ddim. Byddwn yn cefnogi a pharatoi dioddefwyr a thystion troseddau sy’n gorfod mynd i’r llys i roi tystiolaeth.Gall rhai deimlo’n ansicr o’u hunain, ac yr ydym ni yma i’ch helpu chi deimlo’n fwy cyffyrddus a hyderus wrth roi eich tystiolaeth.
I bwy ydym yn rhoi cymorth?
Plant oedd dan 17 oed adeg y drosedd.
Dioddefwyr/tystion trosedd rywiol.
Dioddefwyr/tystion trais domestig.
Dioddefwyr/tystion trosedd hiliol.
Dioddefwyr/tystion sy’n cael eu bygwth gan eraill.
Tystion gyda salwch meddwl.
Tystion gydag anabledd dysgu.
Os ydych angen ein cymorth, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ar:
0192 806880
neu
07971 261684
Beth a allwn ni ei wneud?
Gallwn gynnig cyfle i chi gael trafod y broses yn y llys.
Fel rheol, gallwn wneud hyn yn eich cartref.
Gallwn gael yr atebion i unrhyw gwestiynau penodol sydd gennych.
Gallwn drefnu ichi ymweld â’r llys cyn dyddiad yr achos.
Anelwn i’ch helpu i deimlo’n fwy cyffyrddus a hyderus wrth roi eich tystiolaeth.
Ar gyfer tystion ifanc:
Byddwn yn siarad mewn ffordd hwyliog am fynd i’r llys.
Byddwn yn chwarae gemau fel rhan o’r paratoi.
Byddwn yn defnyddio llyfrynau ar gyfer plant.
Gallwn roi cyfle ichi ymweld â’r llys, ac i edrych ar ffyrdd eraill y gallech roi tystiolaeth.