Copyright © 2008 by "Witness service" · All Rights reserved · E-Mail: contact@info-court.org
C: A oes rhaid i mi roi tystiolaeth?
A: Oes, nid yn unig dyna’r peth moesol (iawn) i’w wneud, ond os ydych wedi derbyn gwys i roi tystiolaeth a chwithau ddim yn troi i fyny, gellir cyhoeddi gwarant arestio. Os na fedrwch droi i mewn ar y diwrnod, gadewch i’r llys wybod mor fuan â phosib.
C: Am faint fydda i yn y llys?
A: Cadwch y diwrnod cyfan yn glir. Gall achosion Llys y Goron gymeryd mwy o amser. Gwell cael gair gyda’ch cyfreithiwr a all eich cynghori.
C: A fydd fy nhreuliau yn cael eu talu?
A: Byddant. Bydd arnoch angen ffurflen hawlio treuliau. Os nad oes gennych un yn barod, gofynnwch os gwelwch yn dda i aelod o’r Gwasanaeth Tyst a wnaif eich cynghori.
C: A fydda i’n gweld y diffinydd?
A: Bydd ef/hi yn ystafell y llys, ond nid oes rhaid i chi edrych arno fo neu hi, a ni fyd rhaid i chi siarad efo fo neu hi. Gallwn gymeryd mesurau arbennig e.e. gosod sgrîn rhynddoch chi a’r diffinydd.
C: Mae gennyf anabledd. A fydd hyn yn effeithio ar sut y byddaf yn rhoi tystiolaeth?
A: Mae’r llys yn cynnig amrywiaeth o opsiynau i bobl gyda phob mathau o anableddau, ac yn barod bob amser i gyfarfod ag unrhyw anghenion e.e. lladmeryddion (interpreters), mynediad i gadair olwyn. Os ydych yn ansicr y gall y llys gyfarfod â’ch anghenion chi, cysylltwch â’r llys os gwelwch yn dda am gyngor.
C: A yw fy manylion yn cael eu cadw’n breifat?
A: Mae’r holl gofnodion a gedwir gan y Gwasaaeth Tystion wedi eu diogelu dan y Ddeddf Gwarchod Data.
C: Sut fydda i’n mynd i’r llys?
A: Fe drefnir cludiant os na fedrwch fynd i’r llys. Cofiwch ffonio cyn dyddiad yr achos i drefnu hyn os gwelwch yn dda.
C: Beth ydwy i’w wneud ar ôl cyrraedd y llys?
A: Dywedwch eich enw wrth swyddog diogelwch y llys neu’r tywysydd ym mynedfa’r llys, ac eich bod yno fel tyst.
C: Pwy fydd yn gwarchod fy mhlant
A: Os nad oes oedolyn gyda thyst ifanc, ni all aelodau y Gwasanaeth Tystion edrych ar ôl plant. Gallwch ddod â chyfaill neu aelod o’r teulu i wneud hyn, ond cofiwch os gwelwch yn dda y gall fod yn ddiwrnod hir iddynt. Gall gofal plant gael ei gynnwys yn eich treuliau. Dylech gadarnhau hyn gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron os gwelwch yn dda.
C: Sut allaf gael gwybod canlyniad yr achos?
A: Os ffoniwch eich Gwasanaeth Tystion lleol, fe wnant eu gorau i’ch helpu.
Dyma rai cwestiynau efallai y byddwch yn eu gofyn, gyda’r atebion.