Copyright © 2008 by "Witness service" · All Rights reserved · E-Mail: contact@info-court.org
Beth ydi ystyr y termau.
Termau.
GEG - Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)
Llys y Goron - Llys barn ble gwrandewir ar achosion mwy difrifol.
Tîm y Diffinydd - Mae hwn yn cynnwys cyfreithwyr a bargyfreithwyr. Eu gwaith yw cael y diffinydd yn rhydd o’r cyhuddiad.
Y Diffinydd/ion - Y person neu’r rhai sy’n cael eu cyhuddo o drosedd honedig.
Tystiolaeth - Gall hwn fod mewn sawl ffurf, er enghraifft rhywbeth a ddefnyddiwyd mewn trosedd.
Y Barnwr - Mae ef yn eistedd yn achosion Llys y Goron i sicrhau pob tegwch yn ystod y treial.
Y Rheithgor - Hapddetholiad o ddynion a gwragedd a fyddant yn gwrando ar y ffeithiau mewn achos llys, a byddant yn ystyried os yw’r diffinydd yn euog ai peidio.
Yr Ynadon - Tri o ddynion neu wragedd sy’n eistedd mewn Llys Ynadon i sicrhau pob tegwch yn ystod y treial.
Llys Ynadon - Llys barn ble delir ag achosion llai difrifol.
Tîm yr Erlyniad - Mae Tîm yr Erlyniad yn dangos i’r llys sut y gallai’r diffinydd fod wedi cyflawni’r drosedd.
Datganiad - adroddiad gan berson am beth a ddigwyddodd yn ystod y drosedd honedig. Gall hwn fod yn ysgrifenedig neu ar ffurf fideo.
Dioddefwr - Cyfeirir at unrhyw berson sy’n dioddef o ganlyniad i drosedd fel dioddefwr.
Tyst / Tystion - Cyfeirir at unrhyw un a welodd drosedd yn cael ei chyflawni fel tyst.
Gwasanaeth Tystion - Elusen sydd ar waith mewn llysoedd troseddol drwy helpu a pharatoi dioddefwyr a thystion i droseddau sydd am roi tystiolaeth mewn llys barn.