Copyright © 2008 by "Witness service" · All Rights reserved · E-Mail: contact@info-court.org
Eich cyfle yn y llys.
.
Eich cyfle yn y llys.
Gwneud Datganiad Personol gan Ddioddefwr.
Beth yw Datganiad Personol gan Ddioddefwr?
Mae Datganiad Personol gan Ddioddefwr yn rhoi cyfle ichi ddweud wrth y llys sut y mae’r drosedd wedi effeithio arnoch chi, ac i adael i’r llys wybod am unrhyw gymorth y gall fod arnoch ei angen o ganlyniad i’r drosedd e.e. yn gorfforol, emosiynol neu’n ariannol.
Oes rhaid imi wneud Datganiad Personol?
Nid oes rhaid i chi wneud datganiad os nad ydych eisiau. Gallwch hefyd wneud un yn nes ymlaen ar ôl ichi wneud eich datganiad gwreiddiol. Foddbynnag, mae’n bwysig eich bod yn gwneud hyn cyn i’r achos llys ddechrau. Os na wnewch ddatganiad personol, ni fydd hyn yn effeithio ar ganlyniad yr achos.
Beth fyddai’n digwydd?
Wedi ichi roi eich Datganiad Personol gan Ddioddefwr, bydd yn cael ei ychwanegu i’ch datganiad gwreiddiol a dod yn rhan o bapurau’r achos. Mae hyn yn golygu y bydd pawb sy’n gysylltiedig â’r achos (Heddlu, GEG, yr amddiffyniad a’r barnwyr) yn cael copi.
Fydd hyn yn gwneud gwahaniaeth os ceir y diffinydd yn euog?
Ni allwch chi osod dedfryd ar y diffinydd, mae hynny i fyny i’r llys. Foddbynnag, bydd y llys yn cymeryd eich Datganiad i ystyriaeth wrth benderfyny’r gosb.
Mae rhai sy’n dioddef o ganlyniad i drosedd yn teimlo nad oes angen dwyn achos troseddol yn erbyn diffinydd. Er enghraifft, gall teulu person ymadawedig deimlo nad yw’r diffinydd yn haeddu cael ei garcharu os mai damwain a achosodd farwolaeth. Os profir i drosedd gael ei chyflawni, yn fwriadol ai peidio, mae’n ddyletswydd ar y llysoedd i roi’r gosb briodol. Foddbynnag, wrth roi Datganiad Personol gan Ddioddefwr, mae teulu’r dioddefwr yn cael cyfle i ddatgan wrth y llys eu bod wedi maddau i’r troseddwr. Ond mae’n bwysig cofio nad yw hyn yn golygu na fydd y diffinydd yn derbyn y gosb briodol.
Sut ydw i’n gwneud Datganiad Personol gan Ddioddefwr?
Os ydych yn dyst neu’n ddioddefwr o ganlyniad i drosedd, bydd swyddogion yr Heddlu sy’n delio â’r achos yn eich cynghori ynglyn â’r camau nesaf. Fel arall, cysylltwch â’ch cyfreithwyr neu GEG.
Sut fath o wybodaeth gaf i ei roi?
Gallwch ddweud yn eich datganiad:
Os y dymunwch gael gwybod sut y mae’r achos yn mynd yn ei flaen.
Os hoffech gael cymorth ychwanegol, yn enwedig wrth roi tystiolaeth.
Os ydych yn poeni y bydd y diffinydd yn cael mynd yn rhydd.
Paham y teimlwch ichi orfod dioddef.
Sut y mae’r drosedd wedi effeithio arnoch chi.
Ac unrhyw beth arall y teimlwch all fod o help.