Copyright © 2008 by "Witness service"  ·  All Rights reserved  ·  E-Mail: contact@info-court.org
Contact

 
English

Sut i Wirfoddoli.
Wirfoddoli.
Ydych chi’n meddwl y gallech fod yn gefn i ddiodefwyr a thystion i droseddau yn ystod eu hamser yn y llys?

Ta waeth os ydych wedi ymddeol a gyda pheth amser ar eich dwylo, yn fyfyriwr neu hyd yn oed yn rhywun sydd mewn gwaith gyda diwrnod o’r gwaith, gall y Gwasanaeth Tystion gynnig profiad gwerthfawr i chi yn ogystal â chymwyster cenedlaethol cydnabyddedig.
Cewch ddysgu am y gyfraith ac enill cymwystera megis NVQs neu wobrau rhagoriaeth. Cewch weld sut y mae system y llys yn gweithio. Gallwch helpu cyn lleied neu cyn gymaint â fynnwch, a gwirfoddoli am o flwyddyn i fyny.
Os ydych yn teimlo eich bod yn un a all ddangos tosturi, a all gwrando ar unigolion a’u deall heb fod yn feirniadol, yna cysylltwch â’n Rheolwr Hyfforddiant - Carolyn Hodrien, a fydd yn falch i roi manylion i chi am ein hyfforddiant a’r cyfleoedd i wirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Tystion.

Y Broses Ricriwtio.

Gwirfoddolwr yn mynegi diddordeb - anfonir pecyn gwybodaeth am y gwasanaeth iddo.

Gwirfoddolwr yn dychwelyd y ffurflen gais - mynd am gyfweliad anffurfiol gyda rheolwr y gangen.

Gwirfoddolwr yn mynd am gyfweliad mwy ffurfiol gyda’r Rheolwr Rhanbarth ac yn cydsynio i lenwi ffurflen CRB.

Gwirfoddolwr yn mynd ar gwrs 5 diwrnod o hyfforddiant.

Gwirfoddolwr yn mynd am gyfweliad achrediad ôl-hyfforddiant.

Gwirfoddolwr yn gweithio gyda rheolwr y gangen.

Gwirfoddolwr yn gweithio gyda dioddefwyr a thystion trosedd.

Trwy weithio gyda’r Gwasanaeth Tystion, gallai hyn eich helpu i enill profiad ar gyfer y swyddi canlynol.
Gyrfaoedd y byddwch efallai yn eu hystyried!
Yr Heddlu.
Y Gwasanaeth Prawf.
Y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cyfreithwyr.
Unrhyw waith mewn gwasanaeth cyhoeddus.
HMPS.
Gwasanaeth Llysoedd.

Gartref
Amdanom ni
C & A
Datganiad dioddefwr
Cefnogaeth
Gwybodaeth – Y Goron
Gwybodaeth – Ynadon
Polisi
Holiadur
Cysylltu
Lleoliadau llysoedd
Termau
Llinellau cymorth
Gwirfoddoli
Search